DRAFFT: Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr
Yr ymgynghoriad ar Deithio tuag at Well Iechyd: Canllawiau ar gyfer Ymarferwyr Gofal Iechyd ar weithio’n effeithiol gyda Sipsiwn a Theithwyr.
18 Tachwedd 2014
12-14:00pm
Ystafell Briffio’r Cyfryngau
Cadeirydd: Julie Morgan AC
Agenda
12:00 – 12:30: Lluniaeth / Rhwydweithio
12:30-12:35: Julie Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr
12:35-12:40: Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd
12:40 – 12:50: Sarah Austin, Arweinydd Polisi Iechyd, Grwpiau sy’n Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru
12:50 – 13:30: Sesiwn holi ac ateb
13:00 – 14:00: Holi ac ateb a Rhwydweithio
Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd
Dechreuodd Vaughan Gething AC y drafodaeth drwy ddweud ei fod yn bryderus iawn ynghylch y driniaeth o Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig o ran hygyrchedd at ofal iechyd yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog Iechyd, ac fel yr Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli Shirenewton a Rover Way. Mae ef eisiau gwell canllawiau i staff iechyd, fel bod modd i bobl o’r gymuned sipsiwn a theithwyr gael eu trin yn gyfartal, ac fel unigolion, gydag urddas a pharch.
Cododd Vaughan Gething y mater o hygyrchedd at Wasanaethau Bydwreigiaeth a Mamolaeth ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, a soniwyd am y problemau a ganlyn mewn cysylltiad â’r gwasanaethau hyn:
· Roedd mynd yn ôl ac ymlaen at y gwasanaethau mamolaeth yn creu problemau, ac mewn rhai achosion, yn amhosibl o safleoedd. Nid oes llwybr i gerddwyr na llwybr bysiau i glinig o’r safle yn Shirenewton, a’r un modd gyda’r safleoedd yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Phenfro, sy’n golygu bod gorfodaeth i groesi ffyrdd hynod o beryglus.
· Mae angen i fydwragedd a nyrsys gael hyfforddiant i ymdrin â’r gymuned, gan fod yna achosion lle mae rhai staff meddygol yn gwrthod mynd i safleoedd am wahanol resymau.
Sarah Austin, Arweinydd Polisi Iechyd, Grwpiau sy’n Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru.
Nododd Sarah Austin sut y mae’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn dioddef yn anghymesur mewn nifer o ffyrdd. Yn gyntaf, mae iechyd yn eu cymuned yn broblem: maent yn fwy tebygol o ddioddef diabetes a chyflyrau’r galon, a hefyd mae’r disgwyliad oes yn fyrrach ar eu cyfer na’r gyfradd gyfartalog. Yn ail, mae Sipsiwn a Theithwyr yn wynebu rhwystrau wrth geisio cofrestru gyda meddyg, a hyd yn oed os ydynt wedi cofrestru, byddant yn cael anhawster i gael apwyntiadau, ac yn aml bydd camddealltwriaeth rhyngddynt â staff.
Nododd Sarah Austin y byddai o fudd, nid yn unig i’r rhai yn y gymuned sipsiwn, ond i’r staff iechyd yn ogystal, pe bai staff iechyd lleol yn ymweld â safleoedd, ble y byddent yn cwrdd â Sipsiwn a Theithwyr yn eu cartrefi, ac wedi’u haddysgu’n well ar agweddau diwylliannol ar fywyd Sipsiwn a Theithwyr.
Parhaodd, drwy dynnu sylw at ba mor bwysig yw rhaglenni allgymorth, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc. Mewn rhai achosion, nid yw’r rhieni yn gallu darllen, sy’n golygu eu bod yn dibynnu ar eu plant yn aml i ddarllen llythyrau sensitif gan y gwasanaethau iechyd, neu efallai na fydd yr ohebiaeth yn cael ei darllen o gwbl. Dyna pam bod cael rhywun i ddod allan i’r safleoedd, ac i egluro’r materion dan sylw yn bwysig iawn, gan y gallai, yn ei hanfod, arbed bywyd rhywun.
Dywedodd Sarah Austin ei bod yn hapus i ymestyn y cyfnod ymgynghori, a pharhau i dderbyn adborth hyd at y Nadolig.
Trafodaeth: Gwasanaeth Meddygon Teulu
· Cafwyd llawer iawn o gwyno a straen mewn perthynas â’r gwasanaethau meddygon teulu: yn gyntaf, mae’n parhau’n broblem ddifrifol i’r rhai yn y gymuned sipsiwn a theithwyr i ymuno â phractis, ac yn ail, mae’n anodd gwneud apwyntiadau, ac yn olaf, gall dod i’r apwyntiadau fod yn broblem.
· Mae llawer o feddygfeydd nad ydynt yn cymryd cleifion o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, am nad oes ganddynt gyfeiriad parhaol neu ‘wir’ gyfeiriad, er gwaetha’r ffaith bod rhai o’r cymunedau yn byw yn eu safleoedd yn barhaol.
· Soniwyd gan un person a oedd yn bresennol y gall meddygon teulu roi 7 munud yn unig ar gyfer pob apwyntiad, a bod Sipsiwn a Theithwyr yn ei chael yn anodd cyfleu eu hanhwylderau yn yr amser hwnnw.
· Aeth Sarah Austin ymlaen i ddweud, yn yr ymgynghoriad, bydd yn nodi fel gofyniad, y bydd yr holl Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu cofrestru mewn meddygfa, ac ni chaniateir i feddygfeydd eu gwrthod.
· Soniwyd hefyd y gall derbynyddion fod â rôl ‘ceidwad y porth’ yn aml, a’u bod yn ddigroeso tuag at bobl o’r safleoedd sy’n dod i’r feddygfa.
· Gwnaed yn glir gan y rheini o’r gymuned, na fyddai’r rhan fwyaf o ferched yn fodlon gweld meddyg teulu gwrywaidd gydag ymholiad iechyd.
· Yn aml bydd camddealltwriaeth rhwng y gymuned sipsiwn a theithwyr a meddygon teulu neu staff iechyd - a all arwain at sefyllfaoedd llawn tyndra.
· Mae angen herio stereoteipio diwylliannol a gwahaniaethu, drwy hyfforddiant ymwybyddiaeth a chydraddoldeb.
Yn bresennol
Jo Guy
Helen O’Sullivan
Debbie McNee
Rosanne Palmer
Hywel Dafydd
Thomas Hendry
Claire Stowell
Simon Malough
Gretta Marshell
Ryland Doyle
Sam Veed
Lillie Bramley
Julia Osmond
Elizabeth Kalynla
Jamie Westcombe
Jocelyn Robinson
Sophia Haywood
Emma Lippatt
Helen Jessop
Susan Skyrme
Sue Morgan
Ellie Edwards
Ruby Edwards
Chloe Miller
Eileen Smith
Julie McCann
Fi Price
Denise Barri
Lorna Marie Price
Catherine Fortune
Bev Stephens
Bryn Hall